LLONGYFARCHIADAU MAWR I ENLLI PARRI
Enillydd Ysgoloriaeth Urdd Gobaith Cymru Bryn Terfel 2014
A DAWNSWRAIG WERIN A CHLOCSWRAIG HYNOD DALENTOG
Cynhaliwyd Cyngerdd Ysgoloriaeth yr Urdd Bryn Terfel 2014 yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth Nos Sul Hydref 12
Dyma Ysgoloriaeth gwerth £4,000 a roddir yn flynyddol i unigolyn mwyaf addawol o blith cystadlaethau unigol o dan 25 oed yn Eisteddfod yr Urdd.
Gwahoddwyd y chwe detholedig i gystadlu am yr ysgoloriaeth mewn noson arbennig a gynhaliwyd ar ffurf cyngerdd yn dilyn yr Eisteddfod. Ar y noson gofynnwyd i bob cystadleuydd berfformio rhaglen 12 munud o hyd gyda phanel o feirniaid arbenigol yn penderfynu pwy fydd yn derbyn yr Ysgoloriaeth. Nod yr Ysgoloriaeth yw meithrin talentau rhai o berfformwyr ifanc mwyaf blaenllaw Cymru a rhoi’r cyfle iddynt ddatblygu ymhellach yn eu maes.
Y chwech oedd yn cystadlu eleni oedd
- Heulen Gwynn Cynfal, Aelwyd Penllyn
- Telaid Alaw, Aelwyd Penllyn
- Enlli Parri, Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr
- Gwyn Owen, Aelwyd Llundain
- Anne Denholm, Aelod Unigol Cylch Caerfyrddin
- Aaron Pryce Lewis, Aelod Unigol Cylch Dewi, Penfro
Enlli Parri
18 oed o Gaerdydd, oedd enillydd Dawns Unigol i Ferched 14-25
Yn enedigol o Gaerdydd ac yn gyn-ddisgybl o Ysgol Gyfun Plasmawr, bellach mae Enlli megis cychwyn cwrs BMus yn y Guildhall yn Llundain. Mae hi’n aelod o Gerddorfa Ieuenctid Cymru, Cerddorfa Ieuenctid Caerdydd a Cherddorfa Conservatoire Iau Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Fel unawdydd enillodd gystadleuaeth Concerto Conservatoire Iau CBCDC yn 2013 ac o ganlyniad cael y cyfle i chwarae Concerto Malcolm Arnold ar gyfer y Ffliwt a Llinynnau gyda cherddorfa linynnol y Coleg. Mae hi hefyd wedi llwyddo i gyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Cerddor Gregynog ar ddau achlysur, ac yn 2013 enillodd wobr y prif gerddor yng ngŵyl Cerddor Ifanc De Morgannwg. Cyrhaeddodd Enlli’r llwyfan yng nghystadleuaeth y Rhuban Glas Offerynnol dan 19 oed yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.