By Mavis Williams Roberts

Dai Williams oedd un o sefydlwyr Dawnswyr Tawerin ac angor y tîm. Os roedd Dai yno roedd pawb yn gyffyrddus. Nid dawnsiwr yn unig, roedd Dai yn ysgogwr, trefnydd a chynghorwr i’r tîm. Yn lleddfu’r plu chwithig ac yn annog yr ofnus. Fe ac Ann oedd y llinyn a gadwai’r tîm ynghŷd. Roedd Dai yn dal i ddawnsio dawnsiau Nantgarw gydag arddeliad yn saith deg mlwydd oed.

Mae meddwl am Dai yn dwyn atgof o’i lais a’i wên. Pan ddaeth i ddawnsio’n gyntaf gyda Pharti Prifysgol Abertawe roedd arno rhywfaint o embaras i fod yno. Er gwaetha ei deryngarwch i rygbi, fel amryw o fyfyrwyr gwryw yn y 1960au, fe ddaeth i ddawnsio oherwydd merch, Ann.

Dwi’n cofio, ar daith i Lydaw fe gariodd gwrwgl ym mhob gorymdaith.

Yn raddol daeth Dai i garu dawnsio gwerin, bob amser yn ymdrechu i fireinio, ac yn awyddus i ddysgu am ddiwylliant gwledydd eraill yn ogystal a’i wlad ei hun.

Roedd yn sylwedydd brwd ac yn feirniad, ac yn hwyrach daeth i feirniadu dawnsio ar lefel leol a chenedlaethol.

Carai ddawnsiau ffair ac fe’i gwelwyd yn aml yn arwain y tîm yn Rali Twm Sion. Roedd yn llysgennad i Gymru a dawnsio gwerin. Pan ar daith, un o’i hoff ddywediadau oedd ‘Disgwyiwch yr annisgwyliadwy’

Mae fy merch Nia yn cofio Dai o’i phlentyndod. Roedd Dai bob amser yn wych gyda phlant, yn eu cario ar ei ysgwyddau mewn gorymdaith, neu’n dawnsio gyda nhw ar eu lefel hwy. Roedd Ann a Dai yn byw’n agos atom bryd hynny, a byddai Nia’n dod lawr yn y bore ac yn gweld y gwydrau gwin, ac yn dweud ‘ Mae Ann a Dai wedi bod’ yn gwmws fel tase fe’n Sion Corn ei hun! Mae Terry yn cofio hiwmor hyfryd Dai a’i allu a chwerthin yn wyneb trychineb.

Pan oedd Dai’n dawnsio gyda tîm y Brifysgol cyfarfu â Pat Shaw. Roedd Patrick yn ffrind ac yn athro i Dai, a hoffai ddefnyddio rhai o ymadroddion mwyaf cynnil Pat fel ‘Move boy, move!’

Roedd Dai yn ddyn diymhongar, bob amser gerllaw i arwain, tywys, helpu ac egluro. Bu Dai’n dawnsio gyda thîm Abertawe am dros hanner can mlynedd, ac yn y diwedd Dai oedd y tîm.

Sut gallwn ni ymdopi hebddot ti Dai; ni a fuodd mor falch i fod yn ffrind a chyd-aelod tîm i ti?