Annwyl aelod/au,

Mae’n gyfnod anodd i ni gyd ond mae Cymdeithas Dawns Werin Cymru yn awyddus i’n helpu fel aelodau i gadw mewn cysylltiad.

Ein bwriad yw cyhoeddi rhifyn 2020 o ‘Dawns’ (er efallai y bydd ychydig yn hwyrach na’r arfer).

Felly beth amdani…? Rhannwch eich hanesion gyda ni!

  • Ydych chi wedi bod ar daith dramor yn ymwneud â dawnsio gwerin?
  • Beth yw hynt a hanes eich grwp dawnsio ers haf 2019?
  • Oes gyda chi ryw bwt o ymchwil neu ddawns werin / alaw newydd yr hoffech rannu gyda ni?

Byddwn yn falch o dderbyn unrhyw gyfraniad erbyn dydd Gwener 29ain Mai:

keithasarah@live.co.uk

aron.nerys@talk21.com

Gyda diolch i bawb sydd yn medru helpu sicrhau parhâd cylchgrawn ein cymdeithas. Cofion atoch bob un a chadwch yn saff,

Sarah a Nerys

(golygyddion rhifyn ‘Dawns’ 2020)