Teyrnged i’n Cyn-lywydd (2015-2018) Marion Owen, a oedd yn well ganddi gael ei hadnabod yn swyddogol fel Mrs Bryn Owen.
Trist gennym gofnodi marwolaeth Marion yn dawel ar 10fed Chwefror, 2020 yn dilyn salwch byr a achoswyd yn dilyn iddi syrthio yn ei chartref, a thrwy hynny dorri ei garddwrn a’i braich. Wedi cyfnod yn ysbyty Amwythig, a chan na allai ymdopi gartref oherwydd ei hanafiadau, treuliodd y misoedd diwethaf mewn cartref preswyl yn y Trallwng.
Cyhoeddwyd hanes byr o’i bywyd gan y Gymdeithas ar achlysur ei phen-blwydd yn 80 oed.
Ganed Marion ar 19eg o fis Mawrth, 1931, yn Llanllechid, lle treuliodd ei phlentyndod. Ym 1949, aeth ei gyrfa â hi i Goleg y Brifysgol, Bangor ac yna i Goleg Cartrefle, Wrecsam. Yn ystod ei gyrfa ym myd addysg y cyfarfu a dod yn ffrind gydol oes i’w hannwyl gyfaill Owen Huw.
Wedi cymhwyso yn athrawes aeth i’w swydd gyntaf yn Ysgol Craig y Don, Llandudno.
Ar un o gyrsiau cynnar y Gymdeithas Ddawns, a gynhaliwyd ym Mhant y Fedwen, y cyfarfu â Bryn, a fu’n ŵr a chydymaith bywyd iddi tan ei farwolaeth sydyn yn 2001. Wedi priodi, gadawodd fyd addysg am y tro a symud i’w chartref presennol yn Rhiwfelen, Foel.
Yn nyddiau cynnar ei phriodas, bu’n wraig a mam yn bennaf gan wneud gwaith cyflenwi o dro i dro yn yr ysgol leol. Wedi genedigaeth tair o ferched a mab, tua 1971, â’r plant ychydig yn hŷn erbyn hyn, dychwelodd i ddysgu yn Ysgol Y Banw. Ar ymddeoliad Mr Emrys Roberts, cymerodd swydd fel pennaeth yr ysgol honno.
Roedd Marion a Bryn yn brysur yn eu cymuned lleol mewn llawer dull a modd. Tua 1971, bu i’r ddau ynghyd ag aelodau eraill o’r gymuned leol, roi cychwyn ar Aelwyd Y Banw. Bryn oedd y Prif Arweinydd, Buddug Evans yn ysgrifenyddes a Marion yn cymryd arni dasgau fel cerddor a chefnogwr. Roedd y teulu cyfan hefyd yn gefnogwyr brwd o weithgareddau C.Ff.I. Dyffryn Banw, ac am flynyddoedd lawer yn brysur dros ben yn hyrwyddo eisteddfodau a digwyddiadau eraill yr oedd y Clwb Ffermwyr Ifanc yn ymhél â hwy. Yn unol â natur ofalgar Marion tuag at eraill, sefydlodd hefyd y gwasanaeth “Pryd ar Glud” yn ei hardal lleol.
Ffurfiwyd Dawnswyr Llangadfan dros 20 mlynedd yn ôl gan Marion a Bryn, ar gais myfyrwyr dosbarth dysgu Cymraeg yr oedd Marion yn ei gynnal. Roeddynt yn dymuno cymryd rhan fwy eang yn niwylliant Cymraeg yr ardal.
Yn anffodus, daeth y grwp i ben 7 mlynedd yn ôl oherwydd ymrwymiadau teuluol a phwysau gwaith ar aelodau’r grŵp, rhywbeth yr oedd Marion bob amser yn gofidio amdano gan iddo fod yn grŵp bywiog o bobl.
Bydd y rhai ohonom sy’n mynychu’r gwyliau a drefnir gan grwpiau dawns Cymru yn adnabod Marion yn dda, a thros y blynyddoedd roedd hi wedi cefnogi Gŵyl Caernarfon, Gŵyl Cadi Ha yn Nhreffynnon yn ffyddlon; Diwrnod Dawns yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru; Gŵyl Ifan, ac unrhyw ŵyl a drefnwyd yn Aberystwyth. Roedd hi hefyd yn ymwneud â threfnu gŵyl ddawns Llangadfan.
Fel cydnabyddiaeth o’r holl waith a wnaeth Marion (a Bryn), i hyrwyddo’r Gymraeg a diwylliant traddodiadol Cymru, gan gynnwys y dawnsio gwerin ym Maldwyn dros gymaint o flynyddoedd, cafodd ei hanrhydeddu’n briodol trwy ei hethol fel Llywydd ein cymdeithas yn 2015. Doedd neb yn haeddu’r anrhydedd yn fwy na’r ddynes dyner, dawel, gartrefol hon yr oeddem yn ei hadnabod.
Gwelir ei cholli yn fawr gan ei ffrindiau, teulu a’r gymuned y bu hi’n gwasanaethu am gymaint o flynyddoedd.
Bu ei hangladd ar 24 Chwefror, 2020, ac ni aeth yn dawel gan fod y tywydd yn un o ddyddiau stormus 2020. Ni wnaeth hynny atal dros 200 o bobl rhag llenwi’r capel bach yn Foel i anrhydeddu’r ddynes hyfryd hon.
Roedd cynrychiolaeth dda o aelodau CDdWC – o Gaernarfon, Ynys Môn, Aberystwyth, Caerfyrddin, Croesoswallt; ac wrth gwrs, Llangadfan. Cafodd aelodau eraill eu hatal rhag mynychu gan y llifogydd oedd wedi cau sawl ffordd yn ardal Maldwyn. Yn benodol, nid oedd ein Llywydd presennol, Rhiain Bebb, a oedd mor deyrngar i Marion, yn gallu teithio. Roedd Rhiain bob amser yn barod i ganu offeryn ar gyfer Marion, e.e. yng Ngŵyl flynyddol Llangadfan ac ar deithiau blynyddol y Fari Lwyd o amgylch Maldwyn. Roedd Marion yn gwerthfawrogi’r caredigrwydd hwn yn fawr iawn.
Cafwyd cynrychiolaeth o Bwyllgor Cymru’r Ŵyl Pan-Geltaidd yno hefyd, yn mhresenoldeb ei ffrindiau da Tegwyn a Marged Williams a yrrodd, er gwaethaf y llifogydd ofnadwy ar y ffyrdd, o Llanelwy i dalu’r deyrnged olaf. Fe wnaeth gŵr bonheddig arall yr oedd Marion yn ei adnabod o’r blynyddoedd yn mynychu’r Ŵyl Pan-Geltaidd daith hir o’r Gogledd i ffarwelio â ffrind da iddo.
Cyflwynwyd cydymdeimlad ar ran amryw o’i ffrindiau ym myd dawnsio gwerin nad oeddent yn ddigon da eu hiechyd i fod yn bresennol i’r trefnwyr angladdau ar ddiwedd y gwasanaeth.
Bellach mae Marion yn gorwedd wrth ochr â’i gŵr annwyl Bryn ym Mynwent Llangadfan.
Bobbie Evans