Ar ddydd Llun 3ydd Awst clywyd y newyddion trist am farwolaeth un o’n haelodau cyntaf ac un wnaeth cymaint i hyrwyddo dawnsio traddodiadol Cymreig.
Ganed Alice E Williams ym Mryn Madog, Brynrefail yn 1925 yn ail ferch i Elizabeth (Robinson gynt) a David Williams (Y Gôf). Addysgwyd hi yn Ysgol Ramadeg Brynrefail a Choleg y Normal,Bangor. Aeth ei gyrfa athrawes â hi o Ddolwyddelan a Phenmachno i lawer ysgol yn Arfon cyn dod i Ysgol Dolbadarn Llanberis. Gadawodd i ddysgu yn Llundain ac yn ddiweddarach yn Ellesmere Port.
Wedi ymddeoliad cynnar aeth ar daith chwe mis i ddarlithio a dysgu Dawnsio Gwerin Cymru yn Awstralia. Ymgartrefodd yng Nghaerdydd am rai blynyddoedd wedi dychwelyd o Awstralia, a thra roedd yno cafodd gyfle i wneud llawer o waith ymchwil. Yn ddiweddarach, dychwelodd i’w bro enedigol a symud i fyw yng Nghaernarfon. Dychwelodd at ei gwreiddiau er cael bod yn nes i’w theulu a’i Chymreictod. Trechodd yr anabledd ,fu’n rhagflaenu a dilyn dwy glun newydd a gwelwyd hi led‑led Cymru yn ymhel a’r ‘pethe’: rhagbrofion eisteddfodau, cyrsiau, gwyliau, teithiau, hyfforddi, beirniadu, darlithio a.y.y.b.
Bu’r Urdd yn ddylanwad cryf arni o’i phlentyndod ac ymunodd â staff yr Urdd fel Trefnydd Arfon (1950‑1956). Gwnaeth yn fawr o’r cyfle yn y cyfnod hwnnw i hyrwyddo Dawnsio Gwerin oedd yn ddim ond megis dechrau’r gwaith arloesol o ail sefydlu a phoblogeiddio Dawnsio Gwerin Cymru wedi sefydlu CDdWC ym 1949. Bu’n aelod o’r gymdeithas ddawns o’r cychwyn cyntaf. Bu’n weithgar dros y blynyddoedd yn rhinwedd nifer o swyddogaethau perthynol â CDdWC a bu’n Llywydd y Gymdeithas am dri tymor o dair blynedd. Anrhydeddwyd hi gyda Medal Anrhydedd Y Gymdeithas ym 1987 a gydag aelodaeth `Er Anrhydedd’ yng Ngorsedd y Beirdd yn 1982 fel Alys Brynrefail. Cyhoeddwyd ei Gwerslyfr Dawnsio Gwerin (Cymraeg a Saesneg) yn 1985, a bu’n brysur yn ysgrifennu erthryglau papur newydd, papurau bro, cylchgronnau megis Llafar Gwlad, Taplas a Dawns. Roedd hi’n adnabyddus ac yn gymeriad hoff gan ddawnswyr ledled Cymru a thu hwnt, ac mae’r teyrngedau a dalwyd iddi gan aelodau amrywiol yn amlygu ei dylanwad.
Cyhoeddir teyrnged lawn yn rhifyn ‘Dawns 2020’, a fydd yn ymddangos yr hydref hwn.