Er waethaf y cyfyngiadau oherwydd y cyfnod clo mae dawnswyr gwerin Cymru wedi parhau i fod yn brysur iawn. Y prosiect diweddaraf yw cyhoeddi fideo o ddawnswyr a cherddorion o bob rhan o Gymru yn dawnsio Ffaniglen. Un o ddawnsiau twmpath mwyaf poblogaidd Cymru, gyda chyfarwyddiadau ar y fideo er mwyn i bawb arall ymuno! Esgus delfrydol i gael gwisgo esgidiau dawnsio ac ymuno yn yr hwyl: https://www.youtube.com/watch?v=uwdUtRs5UdU
Roedd cyfleoedd i ddawnsio a digon i ddiddanu fel rhan o Eisteddfod Amgen, wnaeth gymryd lle yr Eisteddfod Genedlaethol arferol, hefyd:
- Ar nos Sadwrn, 1af Awst, cafwyd twmpath rhithiol gyda dros 900 o bobl yn gwylio! Diolch enfawr i Rhian a Bryn Davies, Dawnswyr Tanat am gydlynu’r cyfan.
- Cafwyd cyfle i ail-weld rhai o sioeau maes yr Eisteddfod: Dyddiadur Morfudd a Sioe Llyn y Fan Fach, sef gwaith sgriptio a chyfarwyddo Eiry Palfrey.
- Bu Eiry hefyd yn traddodi darlith am un o brif sylfaenwyr ein cymdeithas, sef Loïs Blake a ddarlledwyd ar ddydd Mawrth, 4ydd Awst.
- Cafwyd cyfle i ymuno mewn gweithdy stepio dan ofal Daniel Calan Jones, Dawnswyr Bro Taf ar ddydd Llun, 3ydd Awst.
- Yna, ar brynhawn dydd Gwener, 7fed Awst, roedd cyfle wylio sgwrs rithiol gan aelodau Dawnswyr Talog, wedi ei llywio gan Anni Llŷn, yn hel atgofion wrth iddynt ddathlu pen-blwydd y deugain.
Mae cyfle i ail-ymweld gyda’r digwyddiadau ar wefan yr Eisteddfod – mwynhewch!