Efo tristwch dysgom am farwolaeth Mike Hughes, yn ei gartref yng ngwlad Groeg, ar ddydd Gwener, Tachwedd 6ed, 2020.
Bu farw Mike yn dawel yn ei gwsg efo’i ail wraig Trish wrth ei ochr. Roedd o wedi bod yn sâl ers cryn amser.
Brodor o Fae Colwyn oedd Mike Hughes. Symudodd i bentref ger Yr Wyddgrug wedyn ac, ar ôl gadael yr ysgol, symudodd i’r coleg yn y De, lle gwnaeth gyfarfod ei wraig gyntaf Anne. Ar ôl gadael y coleg gweithiodd yng Nghasnewydd am nifer o flynyddoedd.
Roedd Mike yn ddawnsiwr gwerin ym mharti dawns Prifysgol Abertawe, crud i ddawnswyr gwerin Cymreig, gan fynd ymlaen i sefydlu Pen y Fai efo Mel Evans ac Anne. Gadawodd Mike ac Anne i sefydlu Gwerinwyr Gwent yng Nghasnewydd ym 1976. Tyfodd y tîm o’i gwmpas a theithiasant i Ddenmarc a’r Almaen o dan ei arweiniad, a bu ymddangosiadau yn yr Eisteddfod Genedlaethol a’r Eisteddfod Ryngwladol. Roedd o’n arbenigwr mewn clocsio ac, ar un achlysur yn Nenmarc tynnodd y tŷi lawr yn llythrennol, wrth i’r llwyfan ddisgyn oddi tano.
Bu’n hyfforddi Ffermwyr Ifanc Gwent i gystadlu yn y Sioe Frenhinol. Roedd Mike wrth ei fodd yn dawnsio ac ysgrifennodd sawl dawns sydd wedi cael eu cyhoeddi gan y Gymdeithas. Roedd hefyd yn aleod o’r pwyllgor gwaith am nifer o flynyddoedd.
Roedd Mike yn weithredol, ynghŷd â’r diweddar Barry Butler, mewn sefydlu a threfnu Gŵyl Plant Gwent ac roedd o’n hyrwyddwr brwd i ddawnsio gwerin i blant. Roedd o’n galw mewn twmpathau ac mewn blynyddoedd diweddarach ymunodd âShoestring, grŵp dawnsio Appalachian
Yn 2004, prynodd Mike a Trish dŷyn Pissia, Groeg, lle gwnaethon nhw dreulio’r rhan fwayaf o’u hamser yn y blynyddoedd diwethaf.
Cynhelir yr angladd yn Athen ar ddydd Iau, Tachwedd 12fed. Cydymdeimlwn efo’i blant Wyn, Catrin a Dylan ynghŷd â’i wraig Trish, a’i anwyliaid oll.
Bydd colled fawr ar ei ôl.
Roderick Denley-Jones
9fedTachwedd, 2020