Mae canlyniadau’r gystadleuaeth cyfansoddi dawns wedi cyrraedd!

Diolch i bawb wnaeth gystadlu ac wrth gwrs i Bethanne ac Idwal Williams am feirniadu. Llongyfarchiadau i’r enillwyr ac yn arbennig i Alison Allen am ddod yn fuddugol. Gallwch ddarllen y feirniadaeth isod ac edrychwn ymlaen at gael rhoi cynnig ar y dawnsiau er mwyn i ni ddal ati i ddawnsio tra’n cadw at gyfyngiadau Covid-19. Os ydych yn dilyn ein cyfrif Facebook (CDWC/WFDS) gallwch weld fideo o Dawnswyr Caernarfon yn dawnsio  (Stuck in) The House and Garden, sef y ddawns fuddugol.

Beirniadu Cyfansoddi Dawns ar gyfer ei ddawnsio yn ystod y cyfnod Cofid-19

Yn gyntaf diolch i bawb sydd wedi cystadlu, 9 i gyd.

Ein disgwyliadau oedd cael dawns

.1)     Gymreig ei naws mewn patrwm a chyfarwyddyd.

.2)     Cadw at ddisgwyliadau “Cofid-19” yng Nghymru, trwy’r amser, a hyn wedi ei nodi’n eglur yn y cyfarwyddiadau.  e.e. bod angen o leiaf 2m rhwng bob dawnsiwr drwy gydol y ddawns.

.3)     Addas i’w dawnsio gan nifer o bobl nad oedd mewn bybl mewn sesiwn cadw’n heini mewn neuadd, yn ystod mis Hydref.

.4)     Bod y cyfarwyddiadau’n cyd-fynd â’r gerddoriaeth oedd wedi ei enwi. e.e. os oedd y gerddoriaeth yn AABB (4 x 8 bar) buasai’r cyfarwyddiadau hefyd yn cadw at y drefn yma.

.5)     Bod y cyfarwyddiadau’n eglur. h.y. yn gadael i ni ei dawnsio’n syth heb orfod pendroni ar beth yn union oedd y patrwm i fod.

.6)     Cynnig rhywbeth gwahanol a ffresni.

Cafwyd amrywiaeth dda o ffurf y dawnsiau – unigol, parau a setiau. Fodd bynnag, teimlem fod rhai wedi eu hysgrifennu cyn y cyfnod clo a heb ystyried gofynion (cyfyngiadau) bywyd yng nghyfnod Cofid-19 e.e.mae symud i waelod set o 4 cwpl yn golygu teithio tua 8m ac yn cymryd tua 6 i 8 bar;  Nid y 4 bar cyfnod arferol!

Buasai rhan fwyaf o’r dawnsiau yn gweithio ar adeg arall ac wedi ein plesio.

Dau sylw.  Mae’n syndod faint o ofod dawnsio sydd ei angen ar gyfer nifer o barau neu unedau hir os am gadw at y “rheol 2m”.  {Un ffordd o helpu cadw’r 2m ar wahân yw gosod marciau ar lawr y neuadd ychydig dros 2m ar wahân.}  Ac yn ail – a ddylem blethu yn y cyfnod yma?

Beirniadaeth

Dawns Maes Mawr (Ffugenw – Mai)

Uned hir 4 Cwpl sydd yma.  Yr unig son am y cyfyngiadau oedd “gan ystyried cyfyngiadau Cofid 19” ar y dechrau.  Nid oedd unrhyw awgrym ar sut i wneud hyn gydag ambell i symudiad, y croesi ar y gwaelod, yn amlwg yn gorfod anwybyddu’r “rheol 2m” yn llwyr.  Yn anffodus nid oedd y ddawns yn cyd-fynd a’r gerddoriaeth. A1 a wedyn B1 ar gyfer Tŷ a Gardd sydd yn AABB a wedyn A1 B1 ar gyfer Y Dyn Meddw sydd yn AABBCC.  Roedd gormod o setio yn ein barn ni.  Mae ambell i gamgymeriad cyfarwyddyd (gweler Rhan 1, Alaw 2, B1 – mae chwith i fod yn dde gan bod nhw wedi croesi ar y gwaelod. Nid oes digon o gerddoriaeth – 8bar yn unig – i ddawnsio rhwng 12 a 16 medr wrth gastio, croesi drosodd ar y gwaelod a dod yn ôl i’w safle (mae hyd yr uned yn gorfod bod o leiaf 8m).

Dawns y Pedwar Gwynt (Ffugenw – Ahoi)

Ffurf:- “Pawb i sefyll mewn gwagle dau fetr oddi wrth ei gilydd yn wynebu i’r un cyfeiriad.”

Dawns i nifer o unigolion sydd yma gyda’r dawnswyr i gyd 2m oddi wrth ei gilydd trwy gydol y ddawns, ar yr alaw “Rownd yr Horn”.

Dawns syml gyda chyfarwyddiadau clir heblaw am y “ceffyl” (term, fel mae’n digwydd, nad oedd ei angen).  Mae’r alaw a’r syniad o droi ¼ tro gyda’r cloc ac ail wneud y ddawns, tair gwaith, yn mynd a ni i Glan-llyn 50 mlynedd yn ôl!  Buasai ffugur 8 cynnil wedi ychwanegu at y ddawns gan mai cyfres o symudiadau byr sydd ynddi.

Dawns hwylus i gychwyn noson a rhoi cyfle i bawb ddawnsio’n syth, cynhesu a llacio cyn bwrw ati

Dawns yr Enfys (Ffugenw – Bwa’r Arch)

Uned hir i 3 Chwpl – y llinellau’n 4m ar wahân

Diagram a chyfarwyddiadau digon defnyddiol er mwyn ymdrechu a gadw at y “rheol 2m”.

Dawns syml heb gynnig unrhyw beth newydd sy’n cyd-fynd â’r gerddoriaeth.  Mae’r alaw yn newydd i ni.  Rydym yn teimlo bod y cyfarwyddyd “Pawb i stepio” ar C1 yna i lenwi amser.  A ddylem ni gael o leiaf un awgrym ar gyfer y stepio, neu patrwm “newydd?  Yn C2 a ddylai cyplau 2 a 3 symud allan fel mae Cwpl 1 yn symud i mewn, neu bydd problem cadw’r 2m yn digwydd wrth i Gwpl 1 gychwyn llithro i lawr.

Mae’r ddawns yn cael ei ail adrodd dwywaith yn y drefn arferol gan fod Cwpl1 yn symud i’r gwaelod.  Yn ein barn ni ni ellir ei addasu i bedwar cwpl ar y gerddoriaeth sydd ar gael

(Ffugenw – Mynis Mynt)

Uned hir 4 Cwpl i’w ddawnsio ar “Doed a Ddêl” a, dwi’n cymryd “Y Derwydd” (nid Hogiau’r Foelas fel sydd wedi ei nodi).

“Digon arwahan” yw’r cyfwrddyd a roddir ar y cychwyn ond nid oes unrhyw awgrym beth yw ystyr hyn a sut i wneud hyn, yn y cyfarwyddiadau.  Mae trefn y cyfarwyddiadau yn 1A 1B 2A 2B ond AABB yw’r gerddoriaeth.

Buasai’r patrymau’n dderbyniol mewn cyfnod arferol ond nid yw’n bosibl eu gwneud i’r 8 bar a nodwyd ar ei cyfer.  Does dim awgrym y dylai cyplau 2, 3 a 4 esgyn i’w llefydd newydd er mwyn rhoi lle i Cwpl 1 ar y gwaelod.  Mae angen neuadd fawr i ddawnsio hon – o leiaf 12m gyda 14m!

Mandy’s Farewell to Fairbourne (Ffugenw – T’yn y Dolydd)

“Dawns uned hir 1 cwpl” a roddir fel cyfarwyddyd ond mae’n ymddangos mai dawns fesul cwpl sydd yma.  Walts, sef “Ffarwel i’r Marian”, yw’r alaw ond mae’r cyfarwyddiadau yn nodi mai cerdded 3 cam i’r bar a ddylid gwneud.

Dawns digon diddorol gyda sawl patrwm ychydig yn wahanol i’r arfer.  Nid oes unrhyw deimlad o Gymreictod yma, heblaw’r alaw a’r enw ac nid oes unrhyw awgrym bod hon wedi ei chyfansoddi ar gyfer cwpl i’w dawnsio yn y cyfnod yma gyda’r angen i gadw at y rheolau pellteru.  Mae ‘na brinder cerddoriaeth ar gyfer sawl symudiad  e.e. mae’n cymryd mwy na 6 cham i newid lle’n pasio ysgwydd dde a wedyn troi ¼ tro i’r chwith os am gadw 2m ar wahân trwy’r amser.  Ar ben hyn mae ‘na afael dwylo yn digwydd yn rheolaidd.  Nid oes unrhyw awgrym ar sut i leoli’r cyplau arall yn yr ystafell o dan gyfyngiadau Cofid-19.

(Stuck in) The House and Garden (Ffugenw – F. Penkman)

I’w ddawnsio ar yr alaw “Tŷ a Gardd”.

Mae’r hiwmor (neu tafod yn y boch) i’w weld gan gychwyn gyda’r enw a wedyn creu mwy o ddiddordeb gyda’r diagram (“bybl”), yn dangos lleoliad y 6 dawnsiwr, 2 gwpl a 2 unigolyn, o gwmpas y cylch, gyda nodyn bach clyfar islaw.  Plethir yr hiwmor yma drwy weddill y cyfarwyddiadau gan enwi’r patrymau gydag ymadroddion yn gysylltiedig â’r pandemig.

Ar ôl pendroni am ychydig sylweddolom beth oedd yn digwydd gyda’r “golchi dwylo”. (Rhaid bod yr awdur wedi bod yn Awstria!).

Roedd gweddill y cyfarwyddiadau’n eglur ar y darlleniad gyntaf.  Dawns ar gyfer y cyfnod ond yn cymryd mantais ychydig gan ddweud bod y cyplau mewn “bybl” h.y. un cwpl o un tŷ a’r cwpl arall o dŷ arall a felly’n cael troelli wrth i’r ddau unigolyn stepio.  Mae’r “pellteru cymdeithasol” yn cael ei nodi ar y cychwyn a gan nad yw’r dawnswyr yn closio o gwbl maent yn cadw’r 2m ar wahan trwy’r amser.  Nid oes rhaid cael cyplau (yr unig beth wahanol maent yn gwneud yw troelli) a buasai’n bosibl ei ddawnsio a chael yr un effaith gyda 4, 5, 6, 7 neu 8 person yn 2m cytbell o gwmpas cylchedd y cylch.

Hoffem weld pawb yn wynebu allan neu at y tu blaen yn y byrdwn yn y cyfnod yma.

Dawns diddorol ac ychydig yn wahanol i’r disgwyl gan dangos dychymyg.  Y gerddoriaeth yn addas ar gyfer y ddawns, a mewn sync, gyda’r 16 bar yr A i bob un o’r tair rhan a’r 16 bar B ar gyfer y byrdwn.

Dawns Rheol Chwe (Ffugenw – Chwiorydd)

Uned hir 3 Chwpl sydd yma (er y cyfarwyddyd annisgwyl ar y cychwyn).  Cerddoriaeth gwreiddiol, “Ffair i Chwe”, 48 bar sydd ac yn ddigon diddorol gan mai’r llaw chwith sy’n cymryd yr alaw yn y “B” ac yn anghyffredin gan ei bod yn y cyweirnod Ab.  6/8 yw’r amseriad a’r tempo yno 184 sydd yn rhoi dawns hwylus a sionc.

Mae’r awdur yn gofyn i’r dawnswyr wisgo gorchudd hwyneb a dim dal dwylo.  Mae’n anodd iawn dawnsio yn gwisgo gorchudd hwyneb a nid oes angen gwneud mewn sesiwn cadw’n heini.  Roedd yn syniad o gadw 2m ar wahan ddim wedi codi.

Cawn yma ran fwyaf o batrymau buasem yn disgwyl mewn dawns Gymreig o ffugur wyth, pleth, cylch ayyb

Mae’r cyfarwyddiadau a’r partymu’n glir.  Mae’r symudiad yn B1 yn cael ei nodi fel pleth yn lle’r ffugur 8 sydd yn cael ei disgrifio gan y cyfarwyddiadau.  Dan ni erioed wedi clywed am “step y ceffylau” yn B2 ond trwy lwc roedd hawl i “stepio o’u dewis” yn lle bod fel ceffyl. Tybiwn, o’r cyfarwyddiadu sydd yn dilyn, mai plethu o gwmpas yr “hecsagon” mae’r 6 yn gwneud yn C1 er y disgrifiad o “cadwyn rhydd”

Yn anffodus nid yw’n bosibl gwneud sawl un o’r patrymau ar yr 8 bar o gerddoriaeth sydd ar gael os am gadw 2m ar wahan wrth wneud. Awgrymwn yn dylai Cwpl 2 i fod yn anghywir ar gychwyn y ddawns gan y bydd Cwpl 3 yn anghywir wrth esgyn i safle 2 ar gyfer ail wneud y ddawns.

Ar adeg arall buasai hon yn ddawns ddifyr i’w gwneud, ond rhaid cyfaddef, mae ganddom ni deimlad ein bod wedi gweld y patrymu yma o’r blaen.

St Mellons (Ffugenw Deo Volente)

Yn anffodus dyn sydd yn beirniadu dim duw.

“Dawns 1 cwpl” i’w dawnsio’n defnyddio cam rîl ysgafn trwy’r ddawns ar yr alaw St Mellons (wedi eu cynnwys gyda’r cyfarwyddiadau) – rîl 32 bar â’r tempo yn 95.

Nid oes unrhyw ystyriaeth na chyfeiriad at rheolau cofid-19.  Nid yw’n amlwg bod unrhyw ymdeimlad Cymreig yn y ddawns na’r cyfarwyddiadau.  Yn ein barn ni buasai rhaid canu’r alaw 2 waith trwodd petai ni am ei dawnsio heb boeni am yr hunan pellteru, na’r rheolau arall sydd rhaid eu cadw yn y cyfnod yma.  Mae “i fyny dwbl a syrthio’n ôl” – ac ail adrodd hyn, ar y cychwyn, am gymryd 8 cam rîl (8 bar – sef A1).  Ond mae sawl patrwm arall wedi ei nodi yn erbyn yr A1.

Mae’r cyfarwyddiadau – y Diemwnt – yn B1 yn aneglur h.y. beth sydd angen ei wneud, pa ffordd i wynebu cyn cychwyn a hanner ffordd trwodd?  Beth yw “linell ganol” i un cwpl?

Er ei bod yn ddawns osgeiddig cawn gefn wrth gefn a wedyn troelli am yr 8 bar olaf sydd yn hollol wahanol i naws gweddill y ddawns.

Dawns Enfys yn y Ffenest (Ffugenw -Gartharwyr)

Addasiad o batrwm “Meillionen” ar gyfer ddau gwpl sydd yma.

Roedd newyddeb y defnydd o gerddoriaeth a geiriau gwbl berthnasol i’r gyfnod y clo yn ein taro‘n syth. Roddwyd linc i’r safle We yn y cyfarwyddiadau i gan “Enfys yn y Ffenest” gan Tudur Dylan Jones ac Einir Dafydd.

Nodir yn y mynediad am yr angen i fod 2m ar wahan wrth cyrraedd eu safle, felly, wrth ddod at Pennill 1 a’r Bont nid oes arwain yma.  Buasai’r gair “symud” yn gywir

“Clapio Meillionen” sydd yn dod yn y “Cytgan” ac yn amlwg oherwydd y 2m (yn cael ei bwysleisio) nid ydynt yn medru taro dwylo ei gilydd (er nad yw hyn yn cael ei nodi).  Mae ’na gyfarch yn cael ei ychwanegu cyn clapio’r ail waith ac ar ôl yr ail glapio er mwyn defnyddio cerddoriaeth sydd ar gael – ychwanegiad braf.

Mae’n anodd cerdded y siâp bwa mewn 8 cam (beth am 4 cam rî?) yn y “Pont” os am gadw 2m o bellter wrth i Gwpl 1 castio a Chwpl 2 yn symud (nid “arwain”) i fyny.  Wrth i Gwpl 2 ochri Meillionen bydd angen i Gwpl 1 symud yn ôl ychydig er mwyn cadw’r 2m.  Mater bach yw gwneud hyn.

Diddorol iawn a gydag ychydig o feddwl mai’n bosibl cadw’r pellter 2m

Gan mai recordiad yw’r gan, nid yw’r tempo’n gyson,sydd yn her wrth ddawnsio.  Mae’n werth trio –

https://www.youtube.com/watch?v=hmJ_eUugWcA

Dyfarniad

Ar ôl pendroni penderfynwyd, am ba bynnag rheswm, bod 5 o’r dawnsiau ddim yn cyrraedd ein disgwyliadau a felly rhaid oedd rhoi trefn ar y bedair arall

1af   (Stuck in) The House and Garden (Ffugenw – F. Penkman) am sawl rheswm – mae’n gweithio, yn cadw at y rheolau Cofid-19, am y stori berthnasol ac am yr hiwmor – gwahanol ac yn ffres

2il    (agos iawn) Dawns Enfys yn y Ffenest (Ffugenw -Gartharwyr) – mae’n gweithio, yn cadw at y rheolau Cofid-19 ac am y stori berthnasol – eto’n wahanol ac yn ffres

3dd  – cydradd – sef Dawns y Pedwar Gwynt (Ffugenw – Ahoi) a Dawns yr Enfys(Ffugenw – Bwa’r Arch) – maent y gweithio ac yn cadw at y rheolau Cofid-19 – ond dim gymaint o fflach a’r ddau arall.

Diolch,

Bethanne ac Idwal Williams