Mae gan Gymru bob math o draddodiadau yn ymwneud â chyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd: o ganu plygain i hel calennig, ac wrth gwrs ‘pwnco’ gyda’r Fari Lwyd.

Gallwch ddarllen hanes y gwahanol arferion hynod sydd yng nghlwm â gwahanol rannau o Gymru yma:

https://www.wales.com/cy/am-gymru/diwylliant/traddodiadau-nadolig-cymreig

Yn y cyfamser, dymunwn “Blwyddyn Newydd Dda i chi ac i bawb sydd yn y tŷ” a diolchwn yn arbennig i Gwmni Dawns Werin Caerdydd am rannu eu penillion gyda ni – amserol iawn! (Cliciwch i gael gweld copi cliriach).

Efallai yr hoffech chi roi cynnig ar ‘bwnco’… os felly beth am ymuno yn Stomp y Fari Lwyd dan nawydd y Mentrau Iaith? Anfonwch eich ceisiadau at eich Menter Iaith leol (manylion yma), dyddiad cau 5/1/2021. Bydd y Stomp yn cael ei ffrydio’n fyw am 7yh ar Ionawr y 12fed, dan ofal y stompfeistri Anni Llŷn a Tudur Phillips.