Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi manylion cystadlaethau’r Eisteddfod Amgen a dim ond mis sydd nes y dyddiad cau: 17:00, 17eg Mai.

Pump cystadleuaeth ddawns sydd yna (cystadlaethau 33 – 38) yn gymysgedd o ddawnsio unigol a grŵp. Cofiwch y medrwch ddefnyddio’r ddawns fuddugol a gyfansoddwyd gan Alison Allen ar gyfer cystadleuaeth Cymdeithas Eisteddfodau os ydych yn dymuno – dawns sy’n ymateb i ofynion Covid-19 o ran ymbellhau cymdeithasol!

Dolen i’r cystadlaethau dawnsio gwerin:

Eisteddfod Genedlaethol | Dawnsio gwerin

Dolen i’r manylion llawn am y cystadlu ar safle’r Eisteddfod:

Cystadlaethau | Eisteddfod Genedlaethol