Eisteddfod AmGen

by Dawnsio

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi manylion cystadlaethau’r Eisteddfod Amgen a dim ond mis sydd nes y dyddiad cau: 17:00, 17eg Mai. Pump cystadleuaeth ddawns sydd yna (cystadlaethau 33 – 38) yn gymysgedd o ddawnsio unigol a grŵp. Cofiwch y medrwch ddefnyddio’r ddawns fuddugol a gyfansoddwyd gan Alison Allen ar gyfer cystadleuaeth Cymdeithas Eisteddfodau os ydych

Darllenwch Mwy…

Dawns 2021

by Dawnsio

CAIS AM ERTHYGLAU (ac ati) AR GYFER DAWNS 2021 Rydym yn gofyn am erthyglau, ysgrifau, ac ati (e.e. cofiant, dawns newydd, tynnu sylw at ddawnsiau nas arddangosir bellach, ffrwyth ymchwil, …) i’w gosod yn y rhifyn nesaf o DAWNS. Derbynnir hefyd hanes y timau (e.e. ymateb i’r cyfnod clo), pytiau o newyddion (e.e. genedigaethau, priodasau a marwolaethau).

Darllenwch Mwy…

Mari Lwyd 2021

by Dawnsio

Mae gan Gymru bob math o draddodiadau yn ymwneud â chyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd: o ganu plygain i hel calennig, ac wrth gwrs ‘pwnco’ gyda’r Fari Lwyd. Gallwch ddarllen hanes y gwahanol arferion hynod sydd yng nghlwm â gwahanol rannau o Gymru yma: https://www.wales.com/cy/am-gymru/diwylliant/traddodiadau-nadolig-cymreig Yn y cyfamser, dymunwn “Blwyddyn Newydd Dda i chi

Darllenwch Mwy…

Cyfansoddi Dawns – Canlyniadau’r Gystadleuaeth

by Dawnsio

Mae canlyniadau’r gystadleuaeth cyfansoddi dawns wedi cyrraedd! Diolch i bawb wnaeth gystadlu ac wrth gwrs i Bethanne ac Idwal Williams am feirniadu. Llongyfarchiadau i’r enillwyr ac yn arbennig i Alison Allen am ddod yn fuddugol. Gallwch ddarllen y feirniadaeth isod ac edrychwn ymlaen at gael rhoi cynnig ar y dawnsiau er mwyn i ni ddal

Darllenwch Mwy…

Asesiad Risg (Covid-19) i Dimoedd Dawnsio

by Dawnsio

Tachwedd 2020 Er mwyn cynorthwyo timoedd dawnsio traddodiadol Cymreig sy’n ystyried ail-ddechrau dawnsio yn ystod cyfnod Covid-19, mae Cymdeithas Ddawns Werin Cymru wedi paratoi dogfen asesiad risg i gynorthwyo. Mae’r asesiad risg yn adlewyrchu’r sefyllfa bresennol yng Nghymru o ran cyfarfod y tu mewn ar gyfer gweithgareddau wedi’u trefnu. Os ydych chi am ail-ddechrau unrhyw

Darllenwch Mwy…

Teyrnged i Mike Hughes Tribute

by Dawnsio

Efo tristwch dysgom am farwolaeth Mike Hughes, yn ei gartref yng ngwlad Groeg, ar ddydd Gwener, Tachwedd 6ed, 2020. Bu farw Mike yn dawel yn ei gwsg efo’i ail wraig Trish wrth ei ochr. Roedd o wedi bod yn sâl ers cryn amser. Brodor o Fae Colwyn oedd Mike Hughes. Symudodd i bentref ger Yr

Darllenwch Mwy…

Cystadleuaeth – Competition!

by Dawnsio

Mae rhai timoedd dawns yn dechrau cyfarfod ‘o bell’ ond mae’n anodd gwybod beth i’w ddawnsio. Fedrwch chi helpu wrth gyfansoddi neu addasu dawns werin Gymreig er mwyn i ni barhau i ddawnsio a hefyd cadw’n saff??? Gwobrau hael hefyd! Dyddiad cau 31-10-2020 (manylion pellach isod) Mewn cydweithrediad gyda Cymdeithas Eisteddfodau Cymru.

Hwyl yr Haf / Summer Fun

by Dawnsio

Er waethaf y cyfyngiadau oherwydd y cyfnod clo mae dawnswyr gwerin Cymru wedi parhau i fod yn brysur iawn. Y prosiect diweddaraf yw cyhoeddi fideo o ddawnswyr a cherddorion o bob rhan o Gymru yn dawnsio Ffaniglen. Un o ddawnsiau twmpath mwyaf poblogaidd Cymru, gyda chyfarwyddiadau ar y fideo er mwyn i bawb arall ymuno!

Darllenwch Mwy…

Cofio Alice E. Williams

by Dawnsio

Ar ddydd Llun 3ydd Awst clywyd y newyddion trist am farwolaeth un o’n haelodau cyntaf ac un wnaeth cymaint i hyrwyddo dawnsio traddodiadol Cymreig. Ganed Alice E Williams ym Mryn Madog, Brynrefail yn 1925 yn ail ferch i Elizabeth (Robinson gynt) a David Williams (Y Gôf). Addysgwyd hi yn Ysgol Ramadeg Brynrefail a Choleg y Normal,Bangor.

Darllenwch Mwy…

Cofio Marion Owen

by Dawnsio

Teyrnged i’n Cyn-lywydd (2015-2018) Marion Owen, a oedd yn well ganddi gael ei hadnabod yn swyddogol fel Mrs Bryn Owen. Trist gennym gofnodi marwolaeth Marion yn dawel ar 10fed Chwefror, 2020 yn dilyn salwch byr a achoswyd yn dilyn iddi syrthio yn ei chartref, a thrwy hynny dorri ei garddwrn a’i braich. Wedi cyfnod yn ysbyty Amwythig,

Darllenwch Mwy…