Cliciwch enwau’r dawnsiau i lawrlwytho Traciau MP3 ar gyfer ymarfer at Eisteddfod yr Urdd 2019

Hyd y dawnsiau

Lle nad yw’r cyfarwyddiadau yn nodi sawl gwaith i berfformio dawns, penderfynwyd recordio nifer addas o droeon ar gyfer trac ymarfer, ond gellid eu dawnsio unrhyw nifer o droeon.

Ail alawon

Mae traciau Rali Twm Sion a Ffair y Bala yn cynnwys ail alaw. Gellid defnyddio alawon eraill addas, ond nid oes rheidrwydd i ddewis ail alaw o gwbwl.

Mae rheolau adran Dawnsio Gwerin yr Urdd i’w gweld ar dudalen 32 rhestr testunau 2019.

Trac 1: Rasus Conwy

  1. Dawns Werin Bl.4 ac iau

Alaw: Fersiwn o Jones’ Hornpipe
Hyd: 3 gwaith, 2’20”

Trac 2: Y Rhaglyn

  1. Dawns Werin Bl.6 ac iau (Ysgolion â hyd at 100 o blant rhwng 4-11 oed)

Alaw: Y Rhaglyn
Hyd: 3 gwaith, 1’59”

Trac 3: Rhyd y Meirch

  1. Dawns Werin Bl.6 ac iau (Ysgolion â thros 100 o blant rhwng 4-11 oed ac Adrannau)

Alaw: Castell Aberystwyth
Hyd: 4 gwaith, 5’18”

Trac 4: Ceiliog y Rhedyn

  1. Dawns Werin Bl.7, 8 a 9

Alaw: Torth o Fara
Hyd: 6 rhan, 1’39”

Trac 5: Abaty Llanthony

  1. Dawns Werin Bl.10 a dan 19 oed

Alaw: Abaty Llanthony
Hyd: 3 gwaith, 2’09”

Trac 6: Rali Twm Sion

  1. Dawns Werin Bl.9 a dan 25 oed (Ae/UAd)

Alawon: Pigau’r Dur, Ymdaith Gwŷr Dyfnaint, Difyrrwch Gwŷr Llanfabon
Hyd: 11 rhan, 6’28”

Trac 7: Ffair y Bala

  1. Dawns Werin Bl.9 a dan 25 oed (Ae/UAd)

Alawon: Glandyfi, Doed a Ddêl
Hyd: 5 rhan, 2’47”